Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Hydref 2021
Amser:
10.30 -
11.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12558
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS Rhys ab Owen AS Janet Finch-Saunders AS Peredur Owen Griffiths AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Huw Gapper (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Llywydd.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Gweithdrefnau'r Pwyllgor a'i ffyrdd o weithio
2.1 Nid yw’r Rheolau Sefydlog yn galluogi Pwyllgor y Llywydd i ethol Cadeirydd dros dro, felly cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn ystod y cyfarfod, y byddai Peredur Owen Griffiths AS yn arwain y trafodaethau yn ei absenoldeb.
3 Datganiad o Egwyddorion y Pwyllgor Cyllid ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol
3.1 Ystyriodd y Pwyllgor ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a nodwyd ei fod wedi'i fabwysiadu gan Bwyllgor y Llywydd y Bumed Senedd.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i fabwysiadu datganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid a gofynnodd fod y Comisiwn Etholiadol yn rhoi sylw iddo wrth baratoi ei gynigion cyllidebol.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Nododd y Pwyllgor lythyr gan Weinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad a Datganoli ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU.
4.2 Nododd y Pwyllgor hefyd bapurau briffio a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar Fil Etholiadau Llywodraeth y DU.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Cytunwyd ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6 Sesiwn friffio technegol: Swyddogaethau Pwyllgor y Llywydd a'i gefndir deddfwriaethol
6.1 Cafodd aelodau’r Pwyllgor friff technegol ar swyddogaethau a chefndir deddfwriaethol y Pwyllgor.
7 Trafod gohebiaeth ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU
7.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr gan Chloe Smith AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad a Datganoli ar y pryd yn gofyn barn y Llywydd ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr ac anfon copi at Weinidogion perthnasol Cymru a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar gyfer eu hystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.